Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Ysgol Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi mynd ati i ddatblygu ystod o fodiwlau cyfrwng Cymraeg newydd. Yn wir, mae’r adran yn cynnig dros ddeg modiwl cyfrwng Cymraeg erbyn hyn, ac mae nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio’r modiwlau hynny yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ond er bod y myfyrwyr yn derbyn eu darlithoedd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg – a bod deunyddiau dysgu perthnasol wedi eu llunio i gyd-fynd â’r darlithoedd hynny – nid oes llawer o destunau darllen ychwanegol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Yn sgil hyn, mae’n rhaid i fyfyrwyr ddibynnu bron yn gyfan gwbl ar lyfrau ac erthyglau cyfrwng Saesneg wrth astudio eu pwnc y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Yn anad dim felly, mae cyhoeddi’r gyfrol hon yn ymateb i’r galw am destun academaidd cyfrwng Cymraeg cynhwysfawr ar gyfer defnydd myfyrwyr sy’n astudio chwaraeon mewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol. |